Planning and the Welsh Language by Emyr Lewis

Mae’n argyfwng ar y Gymraeg fel iaith hyfyw, yn yr ychydig gymunedau a threfi lle y mae hi’n dal i fod yn iaith y mwyafrif.  Mae cefnogaeth eang yng Nghymru i’r syniad o gynnal yr iaith Gymraeg fel iaith gymunedol.  Mae nifer fawr o Gymry nad ydynt yn ei siarad yn rhyfedd o falch o’r ffaith fod yna lefydd yn ein gwlad lle “na chlywch chi ddim byd ond y Gymraeg”.  Hynny yw mae bodolaeth y cymunedau ieithyddol hyn yn fater dirfodol i bobl Cymru, y tu hwnt i’r rhai sy’n siarad yr iaith.

Yn yr erthygl hon, rwy’n gobeithio agor cil y drws ar sut y gellir defnyddio cyfraith cynllunio er mwyn diogelu’r iaith yn y cymunedau hynny, o leiaf drwy reoli datblygiadau sy’n arwain at gynyddu poblogaeth y cyfryw gymunedau y tu hwnt i’r angen lleol.  Ar hyn o bryd, mae cyfraith cynllunio yn milwrio yn erbyn hynny.

Heb gyfraith cynllunio, byddai rhyddid llwyr gan berchnogion a datblygwyr eiddo i wneud beth bynnag a fynnent ar eu tir, o godi adeiladau i brosesu cemegolion gwenwynig.  Diben cyfraith cynllunio yw gosod rhyddid tirfeddianwyr a datblygwyr yn y glorian a’i bwyso yn erbyn ystyriaethau eraill.  Mae’r rhain yn cynnwys  buddiannau cymdogion, yr amgylchedd neu’r gymuned, yn ogystal â materion sy’n cael eu hystyried i fod yn rhai y dylid eu diogelu o ran egwyddor e.e. henebion neu ystlumod.  Felly er enghraifft, yn achos tyrbeini gwynt, rhoddir yn y glorian ar y naill law hawl y tirfeddiannwr a’r angen am ynni glân, ac ar y llall ymyrraeth â byd natur a harddwch naturiol.

Yn achos yr iaith, mae “rhyddid y farchnad” wedi gwneud lles ac wedi gwneud drwg.  Er enghraifft, gellir dadlau bod y datblygu dwys a fu yng nghymoedd glofaol y de, cyn bod deddfau datblygu, wedi arwain at ddosbarth gweithiol a dosbarth canol diwydiannol Cymraeg eu hiaith sydd wedi galluogi’r Gymraeg i ddatblygu yn iaith fodern mewn modd na wnaeth yr un iaith Geltaidd arall.  Mae hefyd wedi gwneud drwg, er enghraifft, ym maes ail gartrefi a thai haf.

Nododd ffigurau’r Cyfrifiad diweddar fod cwymp wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd a ystyrid i fod yn gadarnleodd.  Mae’r rhesymau dros y cwymp ac ystyr y ffigurau eu hunain yn gymhleth.  Yn sicr mae ffactorau cymdeithasol a seicolegol ar waith, yn arbennig o ran trosglwyddo’r iaith o fewn teuluoedd. Does dim y gall cyfraith cynllunio, nac unrhyw gyfraith yn wir, ei wneud am hynny – mater o ewyllys a pherswad yw hi. Ond mae tebygolrwydd parhad yr iaith a’i throsglwyddiad yn uwch dybiwn i lle mae hi’n fyw fel iaith gymunedol bob dydd, ac mae rhywbeth y gellir ei wneud am hynny.

Dengys gwaith ystadegol Hywel Jones (gynt o Fwrdd yr Iaith) yn eithaf clir fod iaith y “cyfarchiad cyntaf” yn troi o fod yn Gymraeg i fod yn Saesneg pan fo canran y siaradwyr Cymraeg mewn cymuned yn disgyn o dan 70%.  Mewn geiriau eraill, does dim rhaid i’r Gymraeg fynd yn iaith leiafrifol cyn colli ei lle fel prif iaith y stryd.

Mae caniatáu adeiladu stadau tai mawrion sy’n mynd y tu hwnt i’r galw lleol am dai yn golygu bod y trothwy yma mewn peryg o gael ei gyrraedd yn gynt, gan (1) nad siaradwyr Cymraeg sy’n dod i fyw yno gan fwyaf a (2) fod y niferoedd gyfryw fel na ellir eu cymhathu i’r gymuned leol.

Gymaint yn fwy felly yw’r anawsterau i’r Gymraeg mewn llefydd lle mae hi’n iaith fwyafrifol o drwch blewyn, neu’n iaith lleiafrif swmpus.  Yma mae’n parhau i gael ei defnyddio fel iaith gymunedol, ond nid iaith y cyfarchiad cyntaf.  Mae datblygiadau tai mawrion yn prysuro ei thranc fel iaith gymunedol, ac mae’r ymdrechion i gymhathu hyd yn oed yn anos.

Mewn theori, gall cynllunio helpu drwy sicrhau bod ystyriaethau fel hyn yn cael eu rhoi yn y glorian wrth ystyried ceisiadau, ac yn dwyn pwysau priodol, fel y mae ystyriaethau sy’n ymwneud â chadwraeth naturiol neu gadwraeth y “dreftadaeth adeiledig”.

Er enghraifft, yn achos pentref Penybanc yn Sir Gaerfyrddin, lle mae’r Gymraeg yn iaith fwyafrifol o drwch blewyn, fe bleidleisiodd y cynghorwyr yn erbyn adeiladu nifer fawr o dai yn yr ardal ar y sail y byddai hynny’n peryglu sefyllfa’r Gymraeg.

Er gwaethaf hyn fodd bynnag, gwyrdröwyd penderfyniad y cynghorwyr yn dilyn cyngor gan y swyddogion cynllunio.  Sut all hyn fod?

Mae’r ateb i’w ganfod yn natur y gyfundrefn gynllunio ei hun.

Sail y gyfundrefn yw deddfau cynllunio a wnaed yn San Steffan ac is-ddeddfau a wnaed gan weinidogion llywodraethau Whitehall a Chaerdydd.

At hyn, ceir dogfennau polisi sy’n datgan polisi canolog, a dogfennau “cyngor technegol”, sy’n rhoi canllawiau i awdurdodau cynllunio sut i fynd ati i weithredu’r deddfau mewn amgylchiadau penodol.

O ran lle’r iaith Gymraeg yn y drefn cynllunio, ac eithrio pedwar paragraff go annelwig ym mhrif Bolisi Cynllunio Cymru, un o’r dogfennau “cyngor technegol” yma, sef TAN 20 fel y’i gelwir, yw’r cwbl sydd gennym.

Bu galw cyson gan y mudiadau iaith am TAN 20 newydd, ac yn wir fe gafwyd un ddiwedd y llynedd.  Doedd o ddim yn plesio, a dyma’r mudiadau iaith yn galw am TAN 20 arall eto fyth.

Drwy ganolbwyntio ar alw am TAN 20 o hyd, mae’r mudiadau iaith a rhai gwleidyddion wedi cymryd cam gwag.  Y rheswm dros hyn yw mai canllaw yw TAN 20, nid deddf.  I’r graddau y bo’n gyfraith o gwbl, cyfraith feddal iawn yw.  Dim ond talu sylw iddo y mae’n rhaid i awdurdod cynllunio ei wneud.  Os na chedwir ato, beth wedyn?  Mae hawl gan y datblygwr eiddo i apelio yn y fath amgylchiadau, ond dim hawl gan y cyhoedd fel y cyfryw.

At hynny, mae pob TAN 20, gan gynnwys yr un diweddaraf, wedi pwysleisio mai “ystyriaethau cynllunio” sydd yn gorfod bod yn drech wrth benderfynu ar geisiadau.  Nid ymhelaethir ryw lawer ar hyn, ond mae’n ddigon eglur nad yw gwarchod y Gymraeg yn ystyriaeth o’r fath.  Ar ben hynny, mae’r TAN 20 newydd wedi cau’r drws yn glep ar ystyried effaith ceisiadau cynllunio unigol ar y Gymraeg.  Dim ond wrth baratoi cynlluniau datblygu y gellir gwneud hynny dan y TAN 20 newydd.

Yn bwysicach na hyn, oherwydd nad yw’n ddeddf, gellir herio dilysrwydd TAN 20 ei hun yn y llysoedd gan ddatblygwr y gwrthodir ei gais.

Mae mwy na sŵn ym mrig y morwydd fod rhai cyfreithwyr yn cynghori ei bod hi’n gyfreithiol annilys i gymryd sylw o effaith ar y Gymraeg o gwbl mewn penderfyniadau cynllunio, a felly bod TAN 20 ei hun yn anghyfreithlon.

Hyd yn oed os yw’r cyfreithwyr hyn yn anghywir, mae’r sefyllfa yn anghytbwys yn ei gwraidd, gan fod nerfusrwydd neu gyndynrwydd ar ran swyddogion a chynghorwyr polisi yn mynd i barhau.  Ni ellir eu beio am hyn.  Yn y pen draw, asesu risg yw gwaith swyddogion o’r fath.  Mae’n haws rhoi cyngor diogel a gwneud penderfyniad na ellir mo’i herio yn y llysoedd, na chreu risg o gyfreitha yn erbyn yr awdurdod cynllunio.

Mewn geiriau eraill, nid yw’n eglur fod yr iaith Gymraeg yn gallu bod yn y glorian o gwbwl dan y drefn bresennol, ac os yw yn y glorian, ychydig iawn iawn o bwysau y mae hi’n ei ddwyn. 

Yn gyfreithiol ac yn ymarferol, mae rhyddid y farchnad a’r datblygwyr yn drech na hi.

Bu’r strategaeth o ddisgwyl am tAN 20 newydd yn ofer, gan ei bod wedi chwarae i ddwylo’r rhai sy’n frwd o blaid datblygu eiddo beth bynnag fo’r canlyniadau.

Beth sydd i’w wneud felly?  Mae angen sicrhau dau beth:

  • yn gyntaf, fod yr iaith Gymraeg yn y glorian,
  • yn ail bod ganddi’r pwysau priodol mewn achosion priodol

a hynny heb unrhyw amheuaeth cyfreithiol.

Ni fydd dogfen bolisi newydd na chyngor technegol newydd yn ddigon i gyflawni hyn.  Mae angen sylfaen mewn deddf.  Ystyriwch sut y mae gan adeiladau hanesyddol, creaduriaid gwyllt ac ardaloedd pwysig o ran cadwraeth naturiol gyfundrefnau statudol sydd yn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a’u rhoi yn y glorian mewn achosion cynllunio.  Mae deddfau sy’n rhoi dyletswyddau, hawliau a grymoedd penodol i Cadw a Chyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o’r cyd-destun hwn.  Digwyddodd hyn gan nad oedd cyfraith feddal yn ddigonol i sicrhau’r warchodaeth angenrheidiol.

Fel mae’n digwydd, mae cyfleon nawr i wneud rhywbeth tebyg o ran cadwraeth yr iaith, oherwydd bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried biliau sy’n ymwneud â maes datblygu a chynllunio.

Yn y lle cyntaf, mae Bil Cenedlaethau’r Dyfodol (enw gwreiddiol: Bil Datblygu Cynaladwy).  Bûm yn gweithio ar ran Dyfodol i’r Iaith gyda Chymdeithas yr Iaith a mudiadau eraill er mwyn ceisio sicrhau bod lle i’r Gymraeg yn y bil hwn.  Wedi dweud hynny, os daw hwn yn ddeddf, deddf ddiddannedd braidd fydd hi, ac ofer fyddai i’r mudiadau iaith ei hystyried yn fuddugoliaeth fawr pe bai’r cwbl a gyflawnid oedd hyn.

Bil pwysicach o lawer yw’r Bil Cynllunio arfaethedig.  Amcan hwn yw ailwampio’r gyfundrefn gynllunio yng Nghymru yn llwyr.  Bydd y bil hwn yn dylanwadu ar benderfyniadau go iawn ym maes cynllunio.

Ymysg dibenion y bil mae gwneud y broses gynllunio’n haws yng Nghymru, gwneud cynllunio ar lefel Cymru gyfan yn fwy strategol a chynyddu ymwneud lleol wrth baratoi cynlluniau.  Ymddengys hefyd y bydd yn cryfhau llaw y swyddogion cynllunio yn sylweddol.

Yng nghyd-destun y bil hwn, yn fy marn i, y mae’r cyfle i wneud rhywbeth fyddai go iawn yn galluogi’r Gymraeg i gael ei diogelu fel iaith gymunedol.

Mae nifer o bosibiliadau, er enghraifft:

  • datganiad statudol fod sefyllfa’r Gymraeg yn beth dilys i’w ystyried yn y broses gynllunio (y lleiafswm);
  • gosod dyletswydd ar Awdurdodau Cynllunio wrth ystyried ceisiadau cynllunio unigol mewn “ardaloedd cadwraeth y Gymraeg” i ystyried yr effaith ar yr iaith Gymraeg fel iaith gymunedol;
  • sefydlu corff cenedlaethol â’r diben o warchod y Gymraeg, tebyg i CADW neu Gyfoeth Naturiol Cymru, gyda phwerau i ymyrryd yn y broses gynllunio.

Rwy’n addef fy mod, yn y llith hwn, heb grybwyll agweddau eraill ym maes y Gymraeg a chynllunio, megis defnyddio’r iaith ar arwyddion cyhoeddus, a’r posibiliadau cadarnhaol o gynllunio er mwyn cryfhau economi ardaloedd Cymraeg eu hiaith.  Mae hynny oherwydd fy mod wedi dod i gredu mai’r gor-ddatblygu stadau tai a throi carafannau gwyliau yn anheddau parhaol ar sail eang yw’r enghreifftiau amlycaf o sefyllfa lle mae yna annhegwch sylfaenol o ffafrio rhyddid y farchnad dros ddymuniadau pobl leol a’u cynrychiolwyr etholedig i warchod natur ieithyddol yr ardal.

Mae perygl yn yr ymgyrch hon.  Fe allasai wneud y gymuned Gymraeg ei hiaith yn destun cyhuddiadau o Xenophobia.  Rhaid gochel rhag hyn.  Rhaid i ni bwysleisio o hyd fod yr iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg wedi croesawu pobl o’r tu allan erioed, ac mae amrywiaeth cyfenwau pobl sy’n siarad Cymraeg (yn Wyddelig, Seisnig, Eidalaidd, Llychlynaidd, Ffrengig ac yn y blaen) yn dyst i hyn.  Yr hyn sy’n wahanol nawr yw gallu’r cymunedau i gymhathu newydd-ddyfodiaid yn effeithiol, ymdrech a wneir yn anoddach fyth os cynyddir nifer y tai y tu hwnt i anghenion lleol.

Mae yna gyfle nawr, nid dim ond oherwydd bod Bil Cynllunio yn yr arfaeth, ond hefyd oherwydd ei bod hi’n ymddangos bod cyfran helaeth o bobl ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn cydymdeimlo yn wyneb tystiolaeth y cyfrifiad, ac yn credu bod angen cymryd camau cadarnhaol i ddiogelu’r Gymraeg.

O ran strategaeth, mae angen nid yn unig i’r mudiadau iaith gydweithio, ond caredigion yr iaith hefyd.  Mae angen codi proffil yr achos a phigo cydwybod gwleidyddion.  Mae’n argyfwng dirfodol ar y Gymraeg.  Yr her i’r gwleidyddion yn awr yw dewis rhwng gwneud rhywbeth a gwneud dim.  Y cwestiwn tyngedfennol yw hyn: os daw Penybanc arall, ydych chi eisiau bod y gymuned leol yn ddi-bŵer eto i rwystro datblygiad masnachol allasai newid am byth natur ieithyddol draddodiadol y gymuned?

Soniais ar frig y darn hwn mai agor cil y drws ar bethau yr oeddwn am ei wneud.  Yr her, yng ngeiriau Twm Morys, yw mynd ymhellach:

Y mae drws y dylem droi ei ddwrn

One thought on “Planning and the Welsh Language by Emyr Lewis

  1. O dan y drefn gyda’r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981), sydd yn ymwnued a Safleoedd o Ddiddoedeb Gwyddonol Arbennig mae’n rhaid i’r Adwurdod Lleol ( gyda chyngor yr ymgynghorydd statudol ) gael tystiolaeth y bydd y datblygiad yn niweidio y diddordeb gwyddonol arbennig er mwyn i’r Swyddog Cynllunio argymell y ei adroddiad y dyla’i cais cae ei wrthod neu ei newid mwn rhyw ffordd.

    O dan y drefn gyda’r deddfwriaeth Ewropeaidd sydd yn ymwneud a bywyd gwyllt, mae’n rhaid i’r datblygwr brofi na fydd y datblygiad yn debygol o niweidio y diddordeb gwyddonol arbennig.

Leave a Reply to Bethan Beech Cancel reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *