Araith Simon Brooks ar ran Dyfodol i’r Iaith yng Ngwrthdystiad Caernarfon, 24 Ionawr 2015

Simon Brooks yn rali cartrefi cymunedol gwynedd 2Araith Simon Brooks ar ran Dyfodol i’r Iaith, gwrthdystiad Caernarfon, 24 Ionawr 2015 yn erbyn Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

Diolch yn ofnadwy i Siân Gwenllian am ei safiad yn y mater hwn. A fo ben bid bont, a diolch ichi hefyd, Siân, am fod yn barod i bontio â mudiadau eraill yn y rhan yma o’r byd.

Yn fy marn i, y peth gorau a wnaeth Gwynedd erioed oedd normaleiddio’r iaith Gymraeg. Yr hen Gyngor Dosbarth Dwyfor a Chyngor Gwynedd heddiw – y cynghorau yn y gogledd-orllewin a wnaeth hi’n hanfodol fod eu swyddogion yn medru Cymraeg, ac yn medru Saesneg hefyd wrth gwrs, ac a fabwysiadodd y Gymraeg yn iaith fewnol eu gweithgareddau a’r gweithdrefnau.

Os bydd haneswyr yn y dyfodol yn gofyn beth oedd y peth mwyaf chwyldroadol ac arloesol a ddigwyddodd ym maes iaith yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif, rwy’n siwr y byddan nhw’n ateb polisi iaith llywodraeth leol yng Ngwynedd.

Oherwydd Gwynedd ydi’r unig le yng Nghymru sydd wedi trin y Gymraeg fel mae’r Saesneg yn cael ei thrin yn Lloegr, a’r Swedeg yn Sweden, a’r Ffrangeg yn Québec, a’r Fasgeg yng Ngwlad y Basg, sef fel iaith ddiofyn, ddigymell mae disgwyl i bob cangen o fyd gwasanaethau cyhoeddus ei gwybod a’i defnyddio, efo’r cyhoedd ac ymysg ei gilydd.

Dyma un o’r prif resymau, efallai’r prif reswm, pam fod y Gymraeg wedi dal ei thir yn well yng Ngwynedd nag yn unman arall.

Oherwydd os ydych chi am gadw iaith leiafrifol, mae’n rhaid ichi roi’r iaith honno ynghanol yr economi. Ac mae polisi iaith Gwynedd wedi rhoi bri economaidd ar y Gymraeg a’r anogaeth angenrheidiol er mwyn i bobl ei dysgu, ac wedi rhoi hyder hefyd yn llafar siaradwyr Cymraeg, trwy fod yr iaith yn cael ei defnyddio’n broffesiynol.

A’r polisi yma sydd wedi rhoi cyd-destun i bolisi addysg y sir o gael ein plant yn ddwyieithog, yr unig sir yng Nghymru sy’n cymryd o ddifrif yr angen i wneud hynny. Oherwydd os ydi’r Gymraeg yn hanfodol yn y farchnad swyddi leol, gall pawb weld bod diben i’w plant ei meistroli hi.

A’r polisi yma o normaleiddio’r iaith Gymraeg sy’n peri fod yna gymunedau yng Ngwynedd ble mae canran y siaradwyr Cymraeg yn uwch na’r ganran o’r boblogaeth a aned yng Nghymru. Hynny ydi, nid iaith gul yn perthyn i un grŵp ethnig yng Ngwynedd ydi’r Gymraeg, ond iaith amlethnig sy’n perthyn i bobl sydd wedi symud i mewn hefyd, am fod llawer ohonynt wedi dysgu Cymraeg am mai hi ydi iaith arferedig y gymdeithas a’r gweithle.

Yng Ngwynedd, y Gymraeg, os ca i ddwyn ymadrodd o Québec, ydi’r “iaith gyhoeddus gyffredin”. A Gwynedd ydi’r unig le yng Nghymru ble mae hyn yn wir ar hyn o bryd. A does yna ddim byd plwyfol ynglŷn â datgan hynny. Oherwydd am ei bod yn wir am lywodraeth leol yng Ngwynedd, mae ’na obaith y gallwn ni ei chael hi’n wir yng Ngheredigion, Sir Gâr ac Ynys Môn hefyd.

Waeth inni fod yn onest ddim, rhan o fyd gwasanethau cyhoeddus yng Ngwynedd ydi Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

A’r hyn mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn ei ddatgan gyda’u polisi newydd sy’n cynnig cyflogi Cyfarwyddwyr na fedrant iaith y sir ydi nad Cymraeg fydd iaith gyhoeddus gyffredin Gwynedd mwyach. Nid Cymraeg sydd i’w defnyddio rhwng pobl Gwynedd â’i gilydd yn eu swyddi bob dydd, ond Saesneg.

Polisi Ukip wedi ei fewnforio i mewn i’r ardal yma ydi hwn. Dweud mai un iaith, ac un iaith yn unig, gaiff fod yn iaith ddinesig ym Mhrydain, ac nid ein hiaith ni ydi honno.

Nid yn ein henw ni. Ac nid heb inni godi’n llais yn erbyn penderfyniad o’r fath.

 

POLISI CYFLOGAETH CARTREFI CYMUNEDOL GWYNEDD A’R GYMRAEG

Copi o lythyr sydd wedi’i ddanfon at Cartrefi Cymunedol Gwynedd

Claire Russell Griffiths

Cadeirydd y Bwrdd Rheoli

Cartrefi Cymunedol Gwynedd

Ionawr 9, 2015

Annwyl Claire Russell Griffiths,

Polisi Cyflogaeth Cartrefi Cymunedol Gwynedd a’r Gymraeg

Ysgrifennaf atoch ar ran y mudiad, Dyfodol i’r Iaith, i nodi ein pryder dwys bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi hysbysebu dwy swydd, swydd Cyfarwyddwr Adnoddau a swydd Cyfarwyddwr Asedau ac Isadeiledd, heb fod y Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar eu cyfer.

Barn Dyfodol i’r Iaith yw mai’r Gymraeg yw priod iaith Gwynedd, a bod meddu arni’n hanfodol er mwyn ymgymryd â gwaith sy’n gysylltiedig â’r sector gyhoeddus, neu â meysydd megis rheolaeth tai a fu gynt yng ngofal y sector gyhoeddus ac sydd wedi ei allanoli i gyrff fel Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

Mae’r egwyddor hon – mai’r Gymraeg yw iaith gyhoeddus Gwynedd – wedi ei hen dderbyn, ac mae’n mwynhau cefnogaeth eang ar draws y gymdeithas.

Mae hyn yn cael ei adlewyrchu wrth gwrs yn eich polisi iaith sy’n nodi fod eich staff yn medru Cymraeg, sef y polisi yr ydych wedi penderfynu mynd yn groes iddo wrth hysbysebu’r swyddi hyn.

Byddai bwrw ymlaen â phroses penodi a allai arwain at benodi unigolion na fedrant gyfathrebu yn iaith gyhoeddus, arferedig y sir yn gam enfawr yn ôl, ac nid yn unig i Gartrefi Cymunedol Gwynedd, ond i drigolion y sir i gyd.

Rydym yn cydsynio â’r Comisiynydd Iaith y dylid atal y broses benodi am y tro. Mae angen i honno gael ei chychwyn o’r newydd, a bod y gallu i siarad Cymraeg yn cael ei nodi fel sgil hanfodol ar gyfer y ddwy swydd.

Yn gywir,

Simon Brooks, Ysgrifennydd, Dyfodol i’r Iaith

PENODI PRIF WEITHREDWR

Llun o RuthRydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi penodi Prif Weithredwr am y tro cyntaf. Cafodd Ruth Richards, o Fiwmares, ei phenodi i arwain y mudiad.

Mae gan Ruth Richards dros ugain mlynedd o brofiad mewn polisi cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys mewn llywodraeth genedlaethol a lleol, gyda phwyslais penodol ar bolisi cymdeithasol, yr iaith Gymraeg, cydraddoldeb ac ymgysylltu cymunedol.

Bu am ddeng mlynedd yn swyddog cydraddoldeb ac iaith yng Nghyngor Gwynedd a chyn hynny bu’n gydlynydd gwrth-dlodi yng Ngwynedd. Bu ganddi amrywiol swyddi cyn hynny, a bu am chwe blynedd yn ymchwilydd yn Nhŷr Cyffredin.

Meddai Ruth Richards, ” Peth cyffrous yw cael cychwyn y flwyddyn gydag her newydd, ac edrychaf ymlaen yn arw at gychwyn fy swydd newydd gyda Dyfodol i’r Iaith: at weithio gyda’r Cyfarwyddwyr a’r aelodau er mwyn sicrhau dyfodol grymus i’r Gymraeg, a hynny ar adeg mor fywiog a phwysig yn ei hanes.

“Dros y misoedd nesaf, bydd Dyfodol yn llunio cyfres o flaenoriaethau ar ffurf Cynllun Iaith i Gymru, i’w chyflwyno yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Teimlaf yn hynod o falch o gael y cyfle i gyfrannu at y datblygiad arwyddocaol hwn.”