CWRICWLWM CYMRU A’R GYMRAEG MEWN ADDYSG FEITHRIN

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i fynnu eglurder ar y ddeddfwriaeth arfaethedig ar gyfer Cwricwlwm Cymru, sy’n ymddangos yn groes i’r hyn a gytunwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Er ein bod yn gwerthfawrogi bod y ddogfen yn caniatáu i sefydliadau addysg
feithrin a ariennir, nas cynhelir, beidio â dysgu Saesneg er mwyn hyrwyddo
trochi yn y Gymraeg, rydym yn pryderu’n fawr bod y ddogfen yn rhoi hawl
i sefydliadau unigol benderfynu ar eu polisi iaith.

Gall hyn fynd yn groes i ddatganiad gan y Llywodraeth : “ein cynnig yw y
bydd y cwricwlwm newydd yn parhau i alluogi  ysgolion a lleoliadau, fel y
Cylchoedd Meithrin, i drochi plant yn y Gymraeg yn llwyr.”

Gall hyn fynd yn groes i Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yr
awdurdodau lleol, yn enwedig mewn ardaloedd o Gymru lle mae addysg Gymraeg yn norm.

Gall hyn hefyd fynd yn groes i’r categorïau ieithyddol arfaethedig ar gyfer
ysgolion Cymru.

Mae Dyfodol wedi cynnig y geiriad hwn er mwyn sicrhau eglurder ac er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn cefnogi adfywiad y Gymraeg yn ddigamsyniol ym maes allweddol addysg feithrin:

“Bod sefydliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn cael hepgor y Saesneg er mwyn trochi plant yn y Gymraeg yn llwyr, a’u bod yn dilyn polisi iaith sydd o safbwynt y Gymraeg o leiaf cyn gryfed â pholisi siroedd ar addysg Gymraeg.”

YMGYNGHORIAD CYNLLUNIO ADFERIAD Y GYMRAEG PWNC TRAFOD 4: CREU SIARADWYR – DATBLYGU’R GWEITHLU

Y testun trafod diweddaraf yn ein hymgynghoriad ar Gynllunio Adferiad y Gymraeg yw Datblygu’r Gweithlu.

Fel o’r blaen, byddwn yn ddiolchgar iawn o dderbyn eich sylwadau, awgrymiadau ac unrhyw brofiadau ymarferol perthnasol sydd gennych i’w rhannu â ni. Mae croeso i chwi ddefnyddio’r templed cwestiynau isod neu anfon eich sylwadau atom ar unrhyw ffurf arall.

Isod, ceir crynodeb o ofynion Dyfodol ynglŷn â chreu siaradwyr drwy ddatblygu’r gweithlu. Os ydych am weld y ddogfen, Cynllunio Adferiad y Gymraeg yn ei chrynswth, mae copi ar gael i’w darllen ar ein gwefan, dyfodol.net

Diolch drachefn i bawb sydd wedi ymateb hyd yma. Edrychwn ymlaen at glywed gennych – cysylltwch â ni gyda’ch sylwadau:

[email protected]

neu ffoniwch 01248 811798

 

PWNC TRAFOD 4: CREU SIARADWYR –  DATBLYGU’R GWEITHLU

 Dyma farn Dyfodol:

Un sialens fawr ym maes addysg nad yw’n cael ei hateb yn ddigonol ar hyn o bryd yw datblygu gweithlu, yn athrawon a chynorthwywyr, i allu ymgymryd â’r gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg, a gwneud hynny i safon uchel. Yr unig ffordd o wneud hyn yw rhyddhau staff o’u gwaith am gyfnodau estynedig, nail ai i loywi eu Cymraeg neu i ddysgu’r iaith o’r newydd.

Dyma dasg gwbl sylfaenol i bopeth arall a does dim dewis ond buddsoddi’n drwm ynddi. Mae’r sefydliad yn Ewscadi sy’n gyfrifol am hyn, Habe, yn derbyn cyllideb flynyddol o 40 miliwn ewro ar gyfer nifer tebyg o siaradwyr. Os ydyn ni o ddifrif am filiwn o siaradwyr, rhaid i ninnau gael swm cyffelyb, gan roi’r ffocws ar ddau beth:

  • Datblygu’r gweithlu, yn enwedig athrawon a chynorthwywyr
  • Cefnogi rhieni y mae eu plant yn cael addysg Gymraeg, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar, ac sydd am greu cartrefi Cymraeg, i ddysgu’r iaith neu i fagu hyder i’w defnyddio.

 Byddai effaith buddsoddiad felly yn bentyrrol: yn creu siaradwyr newydd yn uniongyrchol fel eu bod hwythau wedyn yn cynhyrchu myrdd o siaradwyr newydd ychwanegol drwy’r sector addysgofal.

Yn ogystal â’r crynodeb uchod, mae Dyfodol i’r Iaith wedi llunio papur ar y Gymraeg yn y gweithle ac ymysg y gweithlu sector cyhoeddus, a dyma ein hargymhellion:

  • Bod angen casglu data cynhwysfawr ar sgiliau ieithyddol staff y sector gyhoeddus.
  • Dylid sefydlu polisi eglur sy’n anelu at roi cwota teilwng o weithwyr a gweithleoedd i’r Gymraeg
  • Sefydlu rhaglen a thargedau 10 mlynedd ar gyfer sgiliau iaith gweithleoedd sector cyhoeddus.
  • 4 awdurdod lleol i weithredu, neu osod rhaglen bendant tuag at weithredu gweinyddiaeth fewnol Gymraeg: Gwynedd (sy’n gweinyddu drwy’r Gymraeg ar hyn o bryd), Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
  • Rhaid cydnabod cryfder cymharol y Gymraeg o fewn ardaloedd gwahanol a gosod targedau fyddai’n cyfateb â chanran siaradwyr Cymraeg yr ardal
  • Lle na fyddo’n ymarferol anelu at weithleoedd sy’n gweinyddu drwy gyfrwng y Gymraeg dylid pwyso ar i’r awdurdodau rheiny fabwysiadu ac annog yr egwyddor o groesawu a hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith gwaith, gan uchafu a gwerthfawrogi’r Gymraeg fel sgil galwedigaethol

 YDYCH CHI’N CYTUNO Â NI? OES GENNYCH UNRHYW SYLWADAU AR Y GWEITHLU A’R GWEITHLE YN Y GWAITH O ADFER Y GYMRAEG?

 

YMGYNGHORIAD CYNLLUNIO ADFERIAD Y GYMRAEG PWNC TRAFOD 3: CREU SIARADWYR – ADDYSG STATUDOL, BELLACH AC UWCH

Y testun trafod diweddaraf yn ein hymgynghoriad ar Gynllunio Adferiad y Gymraeg yw Addysg Statudol, Bellach ac Uwch.

Fel o’r blaen, byddwn yn ddiolchgar iawn o dderbyn eich sylwadau, awgrymiadau ac unrhyw brofiadau ymarferol perthnasol sydd gennych i’w rhannu â ni. Mae croeso i chwi ddefnyddio’r templed cwestiynau isod neu anfon eich sylwadau atom ar unrhyw ffurf arall.

Isod, ceir crynodeb o ofynion Dyfodol ynglŷn â chreu siaradwyr drwy’r gyfundrefn addysg statudol, bellach ac uwch. Os ydych am weld y ddogfen, Cynllunio Adferiad y Gymraeg yn ei chrynswth, mae copi ar gael i’w darllen ar ein gwefan, dyfodol.net

Diolch drachefn i bawb sydd wedi ymateb hyd yma. Edrychwn ymlaen at glywed gennych – cysylltwch â ni gyda’ch sylwadau:

[email protected]

neu ffoniwch 01248 811798

PWNC TRAFOD 3: CREU SIARADWYR – ADDYSG STATUDOL, BELLACH AC UWCH

Dyma farn Dyfodol:

Mae twf yn nifer yr ysgolion Cymraeg penodedig yn hanfodol. Mae i bob ysgol ei rhan yn y gwaith ond mae gallu ysgolion Cymraeg penodedig, drwy weithredu fel cymunedau Cymraeg, i gynhyrchu siaradwyr hyderus yn gwbl unigryw. Mewn ysgolion eraill, bydd rhyw gymaint o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn angenrheidiol.

Yr hyn sydd ei angen felly yw proses o symud drwy gontinw-wm gan amcanu at gyrraedd, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, statws ysgol Gymraeg benodedig. Yn Ewscadi, gwlad y Basgiaid, ers i’r wlad honno ennill hunan-lywodraeth, gwelwyd symudiad cyson o ysgolion Sbaeneg-yn-unig i ysgolion dwyieithog ac yna i ysgolion Basgeg, nes i’r categori cyntaf grebachu allan o fodolaeth a’r trydydd categori ddenu’r mwyafrif mawr.  Yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd, wedi profiad diflas Llangennech a’r llwyddiant yno yn y diwedd, mae’r un broses ar waith yn y sector cynradd heb fawr o wrthwynebiad gan rieni.

Mewn cymdeithas mor symudol ag un heddiw, mae delio â hwyrddyfodiaid yn sialens a’r unig ateb boddhaol yw cyrsiau dwys mewn canolfannau iaith.

Mae gwaith mawr pellach i’w wneud mewn addysg bellach a hyfforddiant, sydd erbyn hyn yn gyfrifoldeb i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rhaid diogelu a datblygu ymhellach waith y Coleg hwnnw mewn Addysg Uwch.

Os am dwf sylweddol mewn addysg Gymraeg, mae’n rhaid gwneud mwy nag ateb y galw, fel y mae Eluned Morgan wedi’i nodi. Rhaid ei ysgogi a’i arwain.

YDYCH CHI’N CYTUNO Â NI? OES GENNYCH UNRHYW SYLWADAU?

  • Ydych chi’n cytuno bod ysgolion Cymraeg penodedig yn angenrheidiol ac y dylid anelu, lle bynnag y byddo hynny’n bosibl, i bob ysgol symud tuag at statws ysgol Gymraeg benodedig?
  • Ydych chi’n cytuno y dylai pob ysgol gynnal rhyw gymaint o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg?
  • Ydych chi’n cytuno bod angen canolfannau iaith i gynnig cyrsiau Cymraeg dwys i hwyrddyfodiaid?

GWERTHFAWROGWN YN OGYSTAL EICH SYLWADAU AR SUT I GYMREIGIO ADDYSG BELLACH, ADDYSG UWCH A PHRENTISIAETHAU.