LLYWODRAETH NEWYDD: DYFODOL YN EDRYCH YMLAEN AT Y PUM MLYNEDD NESAF

Gyda Llywodraeth newydd wedi ei hethol, bydd Dyfodol i’r Iaith yn parhau i weithio er mwyn sicrhau lle canolog i’r iaith ar draws yr holl feysydd polisi. Gyda phennod newydd ar fin cychwyn, bydd y mudiad yn anelu tuag at atgyfnerthu llwyddiannau’r gorffennol, a thorri tir newydd.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol, “Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda’r Llywodraeth newydd er mwyn rhoi blaenoriaeth i weithredu cadarnhaol o blaid y Gymraeg.”

Ceir cyfle i glywed a holi mwy am raglen y mudiad dros y pum mlynedd nesaf yng nghyfarfod cyhoeddus nesaf Dyfodol. Cynhelir y cyfarfod am 7 o’r gloch, nos Fawrth Mai 10 yn Nhŷ Tawe, Abertawe, ac estynnir croeso cynnes i bawb.

 

3 sylw ar “LLYWODRAETH NEWYDD: DYFODOL YN EDRYCH YMLAEN AT Y PUM MLYNEDD NESAF

  1. Minnau’n edrych ymlaen at fod yn bresennol yng nghyfarfod Dyfodol yr Iaith yn Nhy Tawe nos yfory. Yn anffodus, ymddiheuriadau gan Charlotte sy’n rhan o’r trefnu ar gyfer achlysur cymunedol Cymraeg pleserus iawn yr un noson yng Nghlydach gan Gapel y Nant (www.capelynant.org). Datganiad ar y delyn gan Gwenllian Llyr fydd yn Neuadd y Nant, gyda chymdeithasu dros gaws a gwin i ddilyn. – Hywel.

  2. Da o beth fod Dyfodol yn dechrau camau i graffu ar y weinyddiaeth nesa ‘ yn LLywodraeth Cymru. Bu yna ddiffyg enbyd gan y gwrth bleidiau yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae mawr angen rhoi sylw i’r Gymraeg yn y gweithle OND mae angen yn y lle cyntaf, eglurder pa fathodyn sydd yn hyrwyddo’r Gymraeg.
    Bathodyn Iaith Gwaith neu Cymraeg pethau bychain-? Mae yna wastraff arian cyhoeddus yn y dyblygu hyn… edrych ymlaen i drafod hyn heno.

    • Cytuno’n llwyr, wrth gwrs! Mae angen bathodyn cydnabyddedig sy’n egur a hawdd i’w adnabod i weithwyr y sector gyhoeddus a phreifat

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *