Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn

Mae yna bryder mawr parthed Cynllun Datblygu Lleol Môn a Gwynedd ar y cyd. Mae’r ddwy sir yn sôn am roi caniatâd amlinellol i yn agos at 8,000 o dai dros y 15 mlynedd nesaf. Bu Dyfodol i’r Iaith yn llythyru’r awdurdod er mwyn cwestiynu’r datblygiad yma ac amlinellu yr effaith negyddol ar sefyllfa’r Gymraeg fel iaith gymunedol yn y Gogledd Orllewin. Ar Orffennaf y 9fed bu dirprwyaeth o Dyfodol, Seimon Brooks, Meirion Davies a Gwion Owain, yn cyfarfod a’r Cynghorydd Dyfed Edwards (arweinydd Cyngor Sir Gwynedd) a’r Cynghorydd John Wyn (portffolio cynllunio) i drafod y mater.

Cafwyd trafodaeth adeiladol ar sut y medrwn gydweithio i ddylanwadu ar y Mesur Cynllunio i sicrhau fod y Gymraeg yn cael lle ar wyneb y mesur.

  •  Arweiniodd hyn at bryder fod yr asesiadau iaith presennol yn ddiwerth ac o safon arbennig o isel sydd ddim yn dangos unrhyw ddealltwriaeth o gymdeithaseg iaith. Cytunodd yr Awdurdod fod angen eu safoni a hefyd eu gwneud yn asesiadau annibynnol. Cynigiwyd y byddai’n well cysylltu ag Alun Ffred Jones AC i fynd a’r mater ymhellach ac eto ceisio dylanwadu ar y mesur cynllunio.
  • Mynnodd y ddirprwyaeth fod angen i’r awdurdod fuddsoddi mewn creu cyfundrefn canolog i fesur y galw am dai newydd, er mwyn gallu dod a’r ffigyrau lawr o lefel amcangyfrif y Llywodraeth, rhywbeth y mae’r Llywodraeth ei hun yn datgan mae modd i Awdurdodau lleol ei wneud. Cytunai’r awdurdod fod hwn yn syniad da ond nad oedd ganddynt yr adnoddau i neud y gwaith. Pwysodd y ddirprwyaeth fod angen i’r Awdurdod fuddsoddi yma gan fod dyfodol y Gymraeg fel prif iaith y Gogledd Orllewin yn y fantol. Awgrymodd y ddirprwyaeth hefyd y byddai’n yn werth holi’r Llywodraeth neu Gomisiynydd y Gymraeg am gyllid i gynorthwyo gydag astudiaeth o’r fath gan fod y Gymraeg mor ganolog i’r holl gynllun. Cytunodd yr Awdurdod i neud hyn.
  • Y pwynt olaf gododd y ddirprwyaeth oedd bod y newid mewn deddfwriaeth ddiweddar ynglŷn â thai haf (sydd yn golygu bydd modd i’r cyngor codi 100% yn fwy o dreth cyngor ar dai haf) yn mynd i gael effaith ar y nifer o dai ar y farchnad. Rhaid hefyd ystyried effaith rhai meysydd carafannau sydd bellach ar agor drwy’r flwyddyn. Cytunodd yr awdurdod i edrych ar hyn a’i hystyried o ran y nifer terfynol o dai fydd yn y cynllun.
  • Roedd yr awdurdod yn barod i ddatgan ei bod yn bosib y bydd y niferoedd terfynol yn y cynllun yn newid wrth i’r cynllun fynd drwy gyfnod ymgynghorol. Fe fydd Dyfodol yn parhau i bwyso am niferoedd is ac adnoddau i allu profi’r gwir angen lleol.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *