Cyngor Sir Benfro

Galwodd mudiad Dyfodol i’r Iaith ar i gyngor sir Benfro gywiro gwybodaeth gamarweiniol am yr iaith Gymraeg mewn hysbyseb swydd.

 

Mewn hysbyseb diweddar ar gyfer swydd ym maes gwasanaethau cymdeithasol dywed y Cyngor nad yw’r iaith Gymraeg yn rhan flaenllaw o ddarparu gofal cymdeithasol yn y sir. Dywed yr hysbyseb mai dim mewn mewn rhai rhannau o Ogledd Penfro y siaredir yr iaith Gymraeg.

 

Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae tua 23,000 o siaradwyr Cymraeg yn sir Benfro, sef tua 19% o’r boblogaeth. Yn ôl Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol, mae’r datganiad yn yr hysbyseb yn rhoi camargraff o’r sefyllfa ieithyddol yn sir Benfro ac felly yn bychanu’r defnydd o’r Gymraeg ac o angen siaradwyr Cymraeg i gael gofal cymdeithasol yn y Gymraeg.

 

Dywedodd Heini Gruffudd, “Rydym yn croesawu’r ffaith bod y sir yn cynnig hyfforddiant iaith am ddim i weithwyr ond byddai’n dda gweld y Cyngor yn gwneud ymdrech wirioneddol i ddarparu gweithwyr cymdeithasol sy’n gallu delio â siaradwyr Cymraeg yn drylwyr yn hytrach na chynnig rhai ymadroddion yn unig fel cwrteisi.”

 

Ychwanegodd Mr Gruffudd, “Hoffem weld Comisiynydd y Gymraeg yn tynnu sylw Sir Benfro at arfer da yn y maes hwn, galw arnyn nhw i gywiro’r wybodaeth, ac i gynnig gwell gwasanaeth trwy’r Gymraeg”

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *