DYFODOL YN GALW AM DREFN GADARN I ASESU EFFAITH DATBLYGIADAU TAI AR Y GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ategu drachefn y galw am well sylw i’r Gymraeg wrth benderfynu ar faterion cynllunio. Mae’r mudiad yn ymwybodol bod cartrefi Redrow, sy’n gyfrifol am ddatblygiad Goetre Uchaf, ym Mangor, yn marchnata’r cartrefi newydd yn uniongyrchol at brynwyr tu allan i Gymru. Mae un o’r hysbysebion uniaith Saesneg yn annog “symud i Ogledd Cymru”,  gan ganmol adnoddau naturiol yr ardal.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Mae’r strategaeth farchnata hon yn dangos yn glir y farchnad darged ar gyfer datblygiadau o’r math, ac yn cadarnhau ein pryder ynglŷn â chymeradwyaeth diweddar Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ddatblygiad arall o 336 o dai ym Mhen y Ffridd. Clustnodwyd nifer fechan o dai yng Nghoetre Uchaf fel unedau fforddiadwy, ond heb fframwaith asesu digonol i ystyried yr oblygiadau ieithyddol, esgus yw hyn yn y bôn. Byddwn yn pwyso drachefn am strwythur a methodoleg gadarn a grymus i asesu gwir effaith datblygiadau o’r math ar y Gymraeg.“

DYFODOL YN COLLFARNU’R CASGLIADAU’R LLYWODRAETH AR DDATBLYGIAD PEN Y FFRIDD

Mae Dyfodol i’r Iaith yn gresynu y bod Llywodraeth Cymru ar fin caniatáu datblygiad o 336 o dai newydd ym Mhen y Ffridd, Penrhosgarnedd, Bangor. Cyhoeddwyd hyn er waethaf gwrthwynebiad lleol a sirol, yn ogystal ag asesiad annibynnol sy’n dod i’r casgliad y byddai’r datblygiad yn niweidiol i’r Gymraeg yn ardal Penrhosgarnedd a hwnt.

Dengys yr achos nad yw buddiannau’r Gymraeg yn cael blaenoriaeth ddigon uchel, ac ym marn Dyfodol, mae’n ddadl bellach dros yr angen i’r Gymraeg gael rôl statudol gryfach ym maes cynllunio

POLISI CYFLOGAETH CARTREFI CYMUNEDOL GWYNEDD A’R GYMRAEG

Copi o lythyr sydd wedi’i ddanfon at Cartrefi Cymunedol Gwynedd

Claire Russell Griffiths

Cadeirydd y Bwrdd Rheoli

Cartrefi Cymunedol Gwynedd

Ionawr 9, 2015

Annwyl Claire Russell Griffiths,

Polisi Cyflogaeth Cartrefi Cymunedol Gwynedd a’r Gymraeg

Ysgrifennaf atoch ar ran y mudiad, Dyfodol i’r Iaith, i nodi ein pryder dwys bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi hysbysebu dwy swydd, swydd Cyfarwyddwr Adnoddau a swydd Cyfarwyddwr Asedau ac Isadeiledd, heb fod y Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar eu cyfer.

Barn Dyfodol i’r Iaith yw mai’r Gymraeg yw priod iaith Gwynedd, a bod meddu arni’n hanfodol er mwyn ymgymryd â gwaith sy’n gysylltiedig â’r sector gyhoeddus, neu â meysydd megis rheolaeth tai a fu gynt yng ngofal y sector gyhoeddus ac sydd wedi ei allanoli i gyrff fel Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

Mae’r egwyddor hon – mai’r Gymraeg yw iaith gyhoeddus Gwynedd – wedi ei hen dderbyn, ac mae’n mwynhau cefnogaeth eang ar draws y gymdeithas.

Mae hyn yn cael ei adlewyrchu wrth gwrs yn eich polisi iaith sy’n nodi fod eich staff yn medru Cymraeg, sef y polisi yr ydych wedi penderfynu mynd yn groes iddo wrth hysbysebu’r swyddi hyn.

Byddai bwrw ymlaen â phroses penodi a allai arwain at benodi unigolion na fedrant gyfathrebu yn iaith gyhoeddus, arferedig y sir yn gam enfawr yn ôl, ac nid yn unig i Gartrefi Cymunedol Gwynedd, ond i drigolion y sir i gyd.

Rydym yn cydsynio â’r Comisiynydd Iaith y dylid atal y broses benodi am y tro. Mae angen i honno gael ei chychwyn o’r newydd, a bod y gallu i siarad Cymraeg yn cael ei nodi fel sgil hanfodol ar gyfer y ddwy swydd.

Yn gywir,

Simon Brooks, Ysgrifennydd, Dyfodol i’r Iaith