Dyfodol yn Eisteddfod Sir Gâr

Cafodd Dyfodol i’r Iaith wythnos lwyddiannus iawn yn Eisteddfod Sir Gâr yn Llanelli.

Diolch i bawb ddaeth i’r stondin am sgwrs ac i wybod mwy am waith y mudiad.

Dyma rai uchafbwyntiau:

 

Myrddin ap Dafydd yn trafod y Gymraeg mewn Busnes ar y stondin

Myrddin ap Dafydd yn trafod y Gymraeg mewn Busnes ar y stondin

 

Cefin Campbell a Meirion Prys Jones ar ol cyflwyniad Cefin yng ngyfarfod Dyfodol ym Mhabell y Cymdeithasau

Cefin Campbell a Meirion Prys Jones ar ol cyflwyniad Cefin yng ngyfarfod Dyfodol ym Mhabell y Cymdeithasau

Ynyr Llwyd yn canu ar y stondin

Ynyr Llwyd yn canu ar y stondin

Trysorydd Dyfodol, Huw Edwards,  yn clirio ar ddiwedd yr eisteddfod

Trysorydd Dyfodol, Huw Edwards, yn clirio ar ddiwedd yr Eisteddfod

 

Canolfannau Iaith

LLONGYFARCH Y LLYWODRAETH AR ROI ARIAN I SEFYDLU CANOLFANNAU IAITH

Mae Dyfodol i’r Iaith yn llongyfarch y Llywodraeth am roi arian i sefydlu rhagor o Ganolfannau Cymraeg.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae Dyfodol i’r Iaith wedi annog sefydlu Canolfannau Cymraeg ar draws Cymru, er mwyn rhoi ffocws newydd i fywyd Cymraeg mewn ardaloedd sydd yn colli’r iaith.”

“Mae Canolfannau Cymraeg yn gallu rhoi canolbwynt i bobl sydd am ddysgu’r Gymraeg, ac yn gallu bod yn fan cynnal digwyddiadau adloniant i bobl ifanc a siaradwyr Cymraeg.”

“Mae rhai Canolfannau Cymraeg llwyddiannus yn barod, er enghraifft Tŷ Tawe Abertawe a Chanolfan Merthyr.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld cadwyn o Ganolfannau Cymraeg llwyddiannus.”

“Mae tua 200 o Ganolfannau Iaith yng Ngwlad y Basgiaid, ac mae’n ardderchog gweld y Llywodraeth yn cyfrannu’n gadarnhaol i sefydlu rhagor o Ganolfannau yng Nghymru.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfnod cyffrous lle bydd Cymraeg i Oedolion, y Mentrau Iaith, yr Urdd, cynghorau lleol a gwirfoddolwyr yn dod at ei gilydd i adfywio bywyd Cymraeg sawl man yng Nghymru.”

“Fe wnaeth Prifysgol Abertawe ymchwil i gyfraniad Canolfannau Cymraeg i brofiad rhai sy’n dysgu’r Gymraeg, ac roedd y canlyniadau’n gadarnhaol dros ben.”

 

Cyrraedd Pum Nod

Mae pum cam o bwys i’r iaith wedi’u cymryd eleni, yn ôl Dyfodol i’r Iaith.  Bu Dyfodol i’r Iaith yn cynnal trafodaethau mewn sawl maes,  ac mae hyn yn dechrau dwyn ffrwyth, yn ôl y Cadeirydd, Heini Gruffudd.

Y pum llwyddiant yw:

  • Sefydlu Endid Genedlaethol Cymraeg i Oedolion
  • Cynlluniau i sefydlu pedair Canolfan Gymraeg mewn pedair tref yng Nghymru
  • Posibilrwydd cael dwy sianel radio Cymraeg
  • Cyhoeddi adnodd Cyngor Gofal Cymru ar ddefnyddio’r Gymraeg ym myd gwasanaethau gofal
  • Polisi addysg Sir Gâr, yn rhan o bolisi iaith pellgyrhaeddol y sir.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni wedi cael gwrandawiad cadarnhaol gan wleidyddion a gan sawl pwyllgor a chorff yn ystod y flwyddyn, ac mae’n dda gweld bod nifer o’n hawgrymiadau wedi cael eu derbyn.”

“Mae’r cyfan o’r pum cam yma’n ymwneud ag ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar lafar a chreu amodau teg i gael siaradwyr newydd.”

“Mae’n allweddol bod y rhai fydd yn gyfrifol am weithredu’r camau hyn yn gwneud hynny’n effeithiol a gydag argyhoeddiad, fel bod modelau da o weithredu’n cael eu sefydlu.”

“Rydyn ni yn ystod y mis nesaf yn canolbwyntio ar sicrhau bod lle i’r iaith yn y Bil Cynllunio sy’n cael ei ystyried gan y Llywodraeth.”