DYFODOL YN GALW AM FYNEDIAD RHWYDD I DDATA ADDYSG ALLWEDDOL

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan pryder ynglŷn ag argymhelliad fyddai’n ei gwneud yn anoddach i gadw llygaid ar berfformiad awdurdodau lleol wrth ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd.

Mae’r ddogfen ymgynghori Rheoliadau Addysg (Asesiadau Athrawon) yn argymell peidio â chyhoeddi data ar iaith asesiadau addysg ar wefan StatsCymru, a byddai hyn yn gorfodi’r sawl sydd am wybodaeth orfod craffu Cynlluniau unigol, neu wneud cais drwy’r broses Rhyddid Gwybodaeth.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“ Mae ehangu addysg Gymraeg yn hollbwysig os ydym am sicrhau twf yr iaith. Rhaid cael strwythurau cadarn i osod targedau a monitro pob agwedd o’r gwaith, ac afraid dweud ei bod yn hanfodol sicrhau’n ogystal fod yr holl brosesau hyn yn dryloyw a hygyrch. Rydym o’r un farn â Statiaith, mai cam niweidiol iawn fyddai amharu mewn unrhyw ffordd ar y gallu i gadw llygaid ar berfformiad a chynnydd awdurdodau lleol mewn perthynas ag addysg Gymraeg; ac yn enwedig felly, gan fod gweithredu tuag at dwf mor angenrheidiol ym maes addysg, a gofynion Strategaeth y Gymraeg y Llywodraeth ei hun mor heriol.”

 

TRAFOD CORFF HYD-BRAICH I’R GYMRAEG GYDA’R GWEINIDOG

Cafwyd cyfarfod buddiol a chadarnhaol yn ddiweddar gyda Gweinidog newydd y Gymraeg, Eluned Morgan. Prif destun ein trafodaeth oedd yr angen am gorff newydd i hyrwyddo’r Gymraeg.

Credai Dyfodol ei bod yn hanfodol unioni’r fantol tuag at hyrwyddo’r Gymraeg; creu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, ac annog unigolion i’w defnyddio o ddydd i ddydd. Rhaid parhau i gryfhau ac ystwytho’r elfen reolaethol, wrth gwrs, ond heb ehangu’r gwaith yn y maes hyrwyddo, nid oes gobaith gweld cynnydd sylweddol yn nefnydd y Gymraeg.

O safbwynt creu sylfaen cadarn i’r gwaith heriol hwn, credwn bydd rhaid sefydlu corff grymus hyd-braich i arwain ar, a chyd-lynu’r holl amryfal ymdrechion. Rydym wedi llunio taflen sy’n amlinellu ein dadleuon a’n gobeithion, a chewch fynediad ati drwy ddilyn y ddolen isod.

Taflen am Gorff Hyd-braich i’r Gymraeg

Fe baratowyd dogfen arbennig gennym hefyd, ac fe ddosbarthwyd copi i’r Gweinidog a phob Aelod Cynulliad. Gallwch ddarllen y ddogfen isod:

Papur cefnogaeth i Awdurdod Iaith