DIOLCH I ALUN DAVIES

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu at Alun Davies i ddiolch iddo am ei arweiniad creadigol yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog yn gyfrifol am y Gymraeg.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith,  “Yn ystod cyfnod Alun Davies, mae’r llywodraeth wedi dangos ei bod yn barod i weithredu mewn dau faes o bwys mawr i’r Gymraeg.  Y cyntaf yw’r bwriad i ehangu addysg Gymraeg, a’r ail yw cyflwyno papur gwyn fydd yn rhoi modd i’r Llywodraeth roi blaenoriaeth i hyrwyddo’r Gymraeg yn y gymuned ac ym myd gwaith.”

“Rydyn ni’r un pryd yn croesawu Eluned Morgan i’w swydd, ac yn edrych ymlaen at weld dyheadau’r llywodraeth yn cael eu gwireddu o dan ei harweiniad hi.”

Mae Dyfodol i’r Iaith  o’r cychwyn wedi bod yn argymell bod y llywodraeth yn sefydlu corff a fydd yn gyfrifol am gynllunio ieithyddol ac am hyrwyddo’r iaith.  Bydd y corff hwn yn datblygu arbenigedd ac yn datblygu partneriaethau ag awdurdodau lleol a chyrff eraill.   Bydd y corff yn gallu arwain prosiectau yn y gymuned ac ym myd gwaith gan ganolbwyntio ar gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Un o fanteision y corff, ar ôl ei sefydlu yn sgil y Mesur Iaith nesaf,  yw y bydd yn gweithredu’n gydlynus, pa blaid bynnag a fydd mewn grym.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *