Cyfarfod â Gweinidog y Gymraeg: Dyfodol yn pwysleisio’r angen am strwythurau cadarn ym Mil y Gymraeg i hyrwyddo a gwarchod yr iaith

Fel rhan o’r ymgynghoriad ar Bapur Gwyn y Gymraeg, bu cynrychiolwyr Dyfodol yn cyfarfod ag Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a’i weision sifil yn ddiweddar.

Cafwyd cyfarfod cadarnhaol iawn, a bu’n gyfle i Dyfodol ategu drachefn ein galw am strwythurau cadarn fyddo’n hyrwyddo’r Gymraeg ar draws yr holl beuoedd a sectorau, gyda’r nod o gynyddu ei defnydd anffurfiol o ddydd-i-ddydd. Mae’r elfen hon o hyrwyddo yn flaenoriaeth i’n gweledigaeth, ond ar yr un pryd, dymunwn weld yr elfen reoleiddio yn ehangu i’r sector preifat ond yn cael ei symleiddio. Mae taro’r cydbwysedd hwn, yn ogystal â chynllunio pwrpasol a chyllid digonol, yn allweddol i lwyddiant Strategaeth y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg.

Roedd sylwadau’r Gweinidog a’r gweision sifil yn galonogol iawn, ond rhaid cofio mai proses yw hon, a rhaid cofio’n ogystal bod angen i ni barhau i bwyso am strwythurau fydd yn caniatáu’r grym, annibyniaeth ac arbenigedd wnaiff arwain at gynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg a’r cyfleoedd i’w defnyddio.

Gweler y linc isod sy’n caniatáu i chwi anfon ymateb i ymgynghoriad y Papur Gwyn. Byddwn yn eich annog yn gryf i fanteisio ar y cyfle hwylus hwn i ymateb (dyddiad cau 31/10/17), ac i bwyso am sylfaen a fframwaith wnaiff gefnogi twf y Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod. Gallwch ddanfon eich ymateb ar ebost at:  [email protected] 

Llythyr Ymgynghoriad Papur Gwyn

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *