DYFODOL YN COLLFARNU’R CASGLIADAU’R LLYWODRAETH AR DDATBLYGIAD PEN Y FFRIDD

Mae Dyfodol i’r Iaith yn gresynu y bod Llywodraeth Cymru ar fin caniatáu datblygiad o 336 o dai newydd ym Mhen y Ffridd, Penrhosgarnedd, Bangor. Cyhoeddwyd hyn er waethaf gwrthwynebiad lleol a sirol, yn ogystal ag asesiad annibynnol sy’n dod i’r casgliad y byddai’r datblygiad yn niweidiol i’r Gymraeg yn ardal Penrhosgarnedd a hwnt.

Dengys yr achos nad yw buddiannau’r Gymraeg yn cael blaenoriaeth ddigon uchel, ac ym marn Dyfodol, mae’n ddadl bellach dros yr angen i’r Gymraeg gael rôl statudol gryfach ym maes cynllunio

Un sylw ar “DYFODOL YN COLLFARNU’R CASGLIADAU’R LLYWODRAETH AR DDATBLYGIAD PEN Y FFRIDD

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *