DYFODOL YN GALW AM SYSTEM SGORIO GWASANAETHAU CYMRAEG

Mae angen i gaffis, siopau a thafarnau ddangos yn glir bod croeso i bobl siarad Cymraeg wrth drafod ar draws y cownter.  Byddai gwneud hyn yn rhoi hyder i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith, yn ôl Dyfodol i’r Iaith.

Mae’r mudiad am weld y Llywodraeth yn cyflwyno arwyddion atyniadol i’w gosod ar ffenestri busnesau lle mae croeso i ddefnyddio’r iaith.

Os yw’r Llywodraeth am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif, rhaid annog mwy o bobl i’w defnyddio, a hynny mewn cymaint o wahanol sefyllfaoedd anffurfiol ag sydd bosib. Dyna graidd gweledigaeth Dyfodol i’r Iaith, ac mae’r mudiad yn grediniol bod rôl allweddol i fusnesau a gwasanaethau preifat i wireddu hyn.

Dyma’r egwyddor sydd tu ôl i alwad y mudiad i gyflwyno system wirfoddol fyddai’n amlinellu gallu a pharodrwydd busnesau i gynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg. Byddai system o’r math yn seiliedig ar drefniadau sydd eisoes yn gyfarwydd i bawb; safonau glendid bwyd, er enghraifft, neu ganllawiau cwrw da CAMRA. Mae Ceredigion eisoes wedi gyflwyno tystysgrifau i sefydliadau sy’n hyrwyddo’r iaith.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Mae caffis, siopau, tafarndai, a myrdd o wasanaethau sector preifat eraill yn cynnig cyfleoedd gwych i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned. Byddai system o arwyddion o’r fath yn gyfle i fusnesau arddangos yn glir bod y Gymraeg yn rhan o’u hethos gofal cwsmer. Byddai hefyd yn gymhelliant i roi sylw dyledus i’r Gymraeg o fewn y gweithle, ac i werthfawrogi ac annog sgiliau ieithyddol staff.

Dros amser, a chyda cefndir o ymgyrch bellgyrhaeddol gan y Llywodraeth i godi ymwybyddiaeth o’r iaith, byddwn yn rhagweld y byddai system o’r fath yn cael ei hadnabod fel marc ansawdd a fyddai’n ddeniadol i’r busnesau eu hunain, yn ogystal â’u cwsmeriaid.”

Addysg Gymraeg ym Mhowys: Ymateb Dyfodol

Yn dilyn sylwadau Sian James ar Golwg 360, gweler isod sylwadau Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, Heini Gruffudd ar sefyllfa addysg Gymraeg ym Mhowys:

Mae gan Bowys record eitha trychinebus o ran datblygu addysg uwchradd Gymraeg. Mae’r Sir yn gyson wedi gwrthod wynebu’r angen am ddilyniant o ysgolion cynradd Cymraeg.  Yn ne’r sir mae nifer o blant yn mynd i siroedd eraill, i Ystalyfera a Rhydywaun, i gael addysg uwchradd Gymraeg gan fod ysgol uwchradd Aberhonddu wedi methu darparu’n deilwng.

Yng ngogledd y sir, ar y llaw arall, mae Ysgol Llanfaircaereinion wedi datblygu ffrwd Gymraeg hynod lwyddiannus.  Mae angen i’r Sir gydnabod hyn a derbyn bod addysg uwchradd gyflawn Gymraeg ar gael yn Llanfaircaereinion. Yn ne’r Sir mae angen i Ysgolion Llanfair-ym-muellt ac Aberhonddu ddod at ei gilydd i gyflwyno addysg Gyrmaeg, ond dewis eilradd yw ffrydiau Cymraeg mewn ysgolion Saesneg.

Mae rhaid cydnabod bod gan y Sir broblemau am fod y boblogaeth yn wasgaredig, ond mae’n hen bryd i’r Sir gydnabod cryfderau rhai ysgolion uwchradd a datblygu ar sail hyn.