TRAFODAETHAU DYFODOL YN EISTEDDFOD Y FENNI

IMG_2411

Diolch drachefn i bawb a gyfrannodd at Eisteddfod lwyddiannus i Dyfodol: yn siaradwyr, diddanwyr ac ymwelwyr â’r stondin. Gweler isod grynodeb o’n holl gyflwyniadau a thrafodaethau …

CYFLWYNIAD DYFODOL YM MHABELL Y CYMDEITHASAU 03/18/16

ADFYWIO’R GYMRAEG YN Y DE-DDWYRAIN

Siaradwyr: Helen Prosser, Cyfarwyddiaeth Strategol Canolfan Dysgu Gymraeg Cenedlaethol

Lis McClean, Prif Swyddog Canolfan a Menter Iaith Merthyr Tudful

Cadeirydd: Elinor Jones

Neges Helen Prosser

 Mae angen mwy o bobl i ddefnyddio’r iaith, a mwy o bobl i’w dysgu, ac i’w dysgu’n well. Dyna neges Helen Prosser, un o brif swyddogion y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, i gyfarfod Dyfodol i’r Iaith ar faes yr Eisteddfod

Wrth sôn am ei stori bersonol, meddai Helen iddi gael adnoddau delfrydol i ddefnyddio’r Gymraeg pan aeth i Brifysgol Aberystwyth a chael ei throchi yn yr iaith.

Mae angen creu amodau cefnogol i ddysgwyr, meddai, a fydd yn rhoi cyfleoedd iddynt ddefnyddio’r iaith yn eu cymunedau.

Rhan o her y Ganolfan newydd fydd cael dysgwyr allan o ddiogelwch yr ystafell ddysgu a dod yn rhan o gymuned Gymraeg sy’n bodoli, neu’n rhan o gymuned Gymraeg newydd.

Bydd y Ganolfan newydd yn mynd ati i godi proffil Cymraeg i Oedolion, ac mae hyn eisoes wedi digwydd. Bydd y Ganolfan hefyd yn annog cyrsiau dysgu dwys, gan ddefnyddio technolegau diweddar i gynyddu cyswllt â’r iaith, er bydd y pwyslais bob tro ar ddefnyddio’r iaith yn y gymuned.

Bydd y Ganolfan hefyd yn rhoi pwyslais ar ddysgu’r Gymraeg yn y gweithle.

Gyda Chanolfan Genedlaethol wedi’i sefydlu, mae modd yn awr ddechrau trafod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol ac S4C sut i hyrwyddo dysgu’r Gymraeg i Oedolion.

 Neges Lis McClean

 Mae Canolfan Cymraeg Merthyr Tudful yn cyfrannu £1.3 miliwn at yr economi lleol. Dyna ganfyddiad arolwg o effaith economaidd y Ganolfan. Meddai Lis McClean, Rheolwr y Ganolfan, fod cyfrannu at yr economi lleol yn un o amcanion y Ganolfan o’r cychwyn. Roedd hyn yn ychwanegol at ddatblygu’r iaith yn y gymuned.

Mae’r Ganolfan wedi cael £32.5 miliwn. Caiff 20 o bobl eu cyflogi yno, ac mae’r Ganolfan yn croesawu 32,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Mae gan y Ganolfan gaffi, siop lyfrau sydd ar fin agor, ystafelloedd dysgu, a meithrinfa. Camp fawr y Ganolfan oedd adnewyddu hen gapel yn ganolfan berfformio.

Er bod y Ganolfan yn rhoi lle blaenaf i’r Gymraeg, y mae hi hefyd yn cyfrannu at weithgareddau ehangach yn y gymuned, gan ddenu pobl at yr iaith yn sgil hynny.

Meddai Lis bod sefydlu rhwydweithiau cymdeithasol yn rhan bwysig o rôl y Ganolfan. Mae’r Urdd, Mudiad Meithrin a Chymraeg i Oedolion yn cyfarfod yno.

Y nod yw bod yn bwerdy i’r iaith, gan gynnig cyfleusterau dysgu ac ehangu hynny at gynnig modd i bobl ddefnyddio’r iaith.

IMG_2414

TRAFODAETHAU EISTEDDFOD DYFODOL I’R IAITH

Dydd Llun: ADDYSG

Siaradwr: Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC

Cadeirydd: Heini Gruffudd

Trosolwg:

Mae’n gyfnod allweddol i Addysg Gymraeg, a chyfnod pryd mae’n rhaid ymateb i’r heriau a gwneud y gorau o bob cyfle. Cafwyd casgliadau o’r broses Donaldson, ac argymhelliad i sefydlu continwwm ieithyddol, gan ddileu’r egwyddor o’r Gymraeg fel ail iaith. Gydag Ysgolion Arloesi, mae’n bwysig bod yn glir ynglŷn â phwy sy’n cydlynu er mwyn sicrhau Cymreictod y cwricwlwm. A gyda methiant Strategaethau’r Gymraeg mewn Addysg, rhaid craffu a herio’r hyn ddaw nesaf.

Gyda Llywodraeth newydd, cafwyd Gweinidog y Gymraeg newydd, a threfniant newydd o drosglwyddo’r cyfrifoldeb dros Addysg Gymraeg i Weinidog y Gymraeg. Bydd cydweithrediad y Gweinidog a’r Ysgrifennydd Addysg yn allweddol bwysig o safbwynt sicrhau cynnydd. Fel oedd y trafodaethau’n cychwyn, cafwyd datganiad gan y Llywodraeth eu bod am sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Sut a beth felly fyddai rôl Addysg Gymraeg yn y broses o gynllunio tuag at hyn?

Casgliadau’r drafodaeth:

  • O safbwynt targed y Llywodraeth, mae’n amlwg na fyddai cadw at y statws cwo yn dod yn agos at gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ( amcangyfrifir ddiffyg o dros hanner miliwn dan yr amgylchiadau presennol). Byddai’n rhaid felly dyblu’r nifer o ysgolion Cymraeg a chynyddu’r ddarpariaeth o Gymraeg i Oedolion. Bydd angen cynllunio a gweithredu manwl iawn
  • Os am gynyddu’r nifer o ysgolion Cymraeg, rhaid mynd i’r afael ag oblygiadau hyfforddi athrawon, gan bwyso ar y Llywodraeth i gyflwyno camau ac amserlen bendant os am gyrraedd y nod
  • Mae’r continwwm iaith yn ddatblygiad cyffrous, ac unwaith eto’r neges yw cynllunio’n ofalus a dechrau’r broses ar fyrder
  • Bydd angen sicrhau cysondeb strategol ar draws yr holl sbectrwm addysg (cynlluniau megis Dechrau’n Deg, Cymraeg i Oedolion, addysg bellach ac uwch); yn enwedig yn yr ardaloedd lle mae’r cyfartaledd o siaradwyr Cymraeg yn is
  • Yn dilyn methiant y Cynlluniau Strategol Cymraeg Mewn Addysg, bydd angen rhoi mwy o gyfeiriad ac arweiniad i Awdurdodau Lleol gyflawni eu rhan yn fwy effeithiol
  • Nodwyd yn ogystal y budd ynghlwm â chyflwyno ieithoedd eraill cyn gynted â phosib o fewn y cwricwlwm, ac ar roi pwyslais ar hanes Cymru

Dydd Mawrth; CYMRAEG I OEDOLION

Siaradwr: Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Cadeirydd: Wyn Thomas

Trosolwg:

Gyda sefydlu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fel corff yn gyfrifol am bob agwedd ar y maes Cymraeg i Oedolion, y gobaith yw sefydlu cysondeb, gan yr un pryd osgoi dyblygu ac arbed costau gweinyddu. Wrth gychwyn ar y gwaith, mae’r sefydliad yn wynebu sawl her; yn benodol gostyngiad mewn cyllid, gan sicrhau’r ddarpariaeth fwyaf effeithiol at y dyfodol.

Un flaenoriaeth amlwg bydd casglu data cadarn ynglŷn â demograffig a sgiliau’r dysgwyr, er mwyn sefydlu gwaelodlin at y dyfodol. Ystyriaeth arall yw cydbwyso cynyddu rhuglder gyda chyrraedd y nifer mwyaf o ddysgwyr. Maes arall sy’n cael ei ddatblygu yw cynlluniau pontio (gyda gwahanol gymunedau) ac ymchwil pellach ar ddysgu anffurfiol a defnyddio technoleg.

Casgliadau’r drafodaeth:

  • Pwysig canolbwyntio ar bobl ddaw a gwerth ychwanegol; yn benodol, gweithwyr (ac yn enwedig athrawon), a rhieni i blant mewn addysg Gymraeg. Noder y bydd trafodaeth ynglŷn ag ariannu cynlluniau sabothol i athrawon yn cychwyn yn yr Hydref.
  • Rôl bwysig i ysgolion mewn denu rhieni i ddysgu’r Gymraeg
  • Pwysig sicrhau fod Cymraeg i Oedolion yn ystyriaeth bwysig wrth i’r Llywodraeth gynllunio camau nesaf Strategaeth y Gymraeg. Byddai casglu data cadarn  o gymorth mawr wrth gychwyn ar y broses hon. Fel yn y drafodaeth flaenorol, pwysleisiwyd yr angen i gynllunio’n ofalus tuag at y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg
  • Pwyso’r Llywodraeth am gefnogaeth ar batrwm Gwlad y Basgiaid i ddysgu’r Gymraeg
  • Angen derbyn fod dysgu’n cymryd amser: 2 awr yr wythnos o wersi’n arwain at ruglder ymhen 15 mlynedd. Gyda hyn mewn golwg, mae’n hanfodol bwysig rhoi cefnogaeth i ddysgwyr tu hwnt i’r dosbarth, boed hynny drwy gymorth cydlynwyr cymunedol, a/neu siaradwyr Cymraeg yn y gymuned
  • Wrth i grantiau ddod dan reolaeth ysgolion unigol, angen pwyso arnynt i fuddsoddi mewn dysgu’r Gymraeg

Dydd Iau; DARLLEDU

Siaradwr: Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni Radio Cymru

Cadeirydd:

Elinor Jones

Trosolwg:

Ar fore’r drafodaeth, cyhoeddwyd bod cynulleidfa Radio Cymru wedi gostwng ers ffigyrau’r haf diwethaf. Ac er bod y gostyngiad (mil o wrandawyr) yn siomedig, gellir hefyd dadlau fod yn sianel yn dal ei thir. Mae’n anodd dehongli’r ffigyrau a’r sefyllfa bresennol, gan nad oes patrwm clir yn dod i’r amlwg. Fodd bynnag, ymddengys mai rhaglenni’r bore sy’n denu’r gynulleidfa fwyaf, mai Radio 2 sydd ar gynnydd, ac mai dyma’r brif gystadleuaeth i Radio Cymru.

Daw’r drafodaeth hon ar drothwy arbrawf pen-blwydd Radio Cymru, gyda’r bwriad i ddarlledu gorsaf amgen am gyfnod byr. Nid cystadlu a’r arlwy presennol yw’r bwriad, ond yn hytrach, arbrofi gyda datblygiadau newydd a chanfod a datblygu doniau newydd at y dyfodol.

Casgliadau’r drafodaeth:

  • Angen manteisio ar bob cyfle i gydweithio gyda S4C
  • Angen targedu’r gwrandawyr sy’n troi ar Radio 2 a’r gorsafoedd masnachol
  • Llacio polisi ar iaith cerddoriaeth yn ddadleuol; rhaid cadw’r cydbwysedd rhwng denu gwrandawyr newydd a chadw teyrngarwch. Yr arbrawf pen-blwydd yn gyfle i edrych ymhellach ar hyn a phosibiliadau eraill
  • Adolygiad o’r arbrawf yn bwysig o safbwynt awgrymu datblygiadau at y dyfodol
  • Angen cofio am anghenion dysgwyr. Ymddangos nad oes galw am raglenni arbennig, ond yn hytrach cymorth i ddeall. Pwysig clywed lleisiau dysgwyr ar y sianel

Dydd Gwener: CANOLFANNAU CYMRAEG

Siaradwr: Iola Wyn, Rheolwr Yr Atom

Cadeirydd: Cynog Dafis

Trosolwg:

Yn unol â dymuniadau Dyfodol i’r Iaith, mae Canolfannau Cymraeg wedi derbyn sêl bendith a chefnogaeth gan y Llywodraeth. Fel mudiad, rydym yn frwdfrydig ynglŷn â’u potensial i ffurfio rhwydweithiau, gan ddod yn bwerdai i’r iaith. Rhaid derbyn, wrth gwrs, fod pob canolfan yn wahanol a bod rhaid iddynt ymateb i ofynion penodol eu hardaloedd Bwriad y drafodaeth oedd canfod yr anghenion o safbwynt eu datblygiad a sut orau i ddatgloi eu haddewid.

Casgliadau’r drafodaeth:

  • Mae Canolfannau Cymraeg yn cynnig cyfle i rannu gweledigaeth ac angerdd. Mae angen bod yn gynhwysol; ceisio ennill y sawl sy’n amddiffynnol a dihyder, a phontio cymunedau. Mae hyn yn rhan greiddiol o’u pwrpas
  • Angen i’r Llywodraeth roi lle blaenllaw i Ganolfannau Cymraeg a’u datblygiad o fewn Strategaeth y Gymraeg
  • Pwysig iawn sicrhau nad oes ormod o bwysau’n cael ei roi ar ewyllys da unigolion (boed y rheiny‘n staff neu’n wirfoddolwyr)
  • Model siop-un-stop yn ddefnyddiol; sefydlu partneriaethau a chreu cefnogaeth eang
  • Diffyg arian cyfalaf yn broblem, ac yn flaenoriaeth ymgyrchu at y dyfodol. Mae hunangynhaliaeth ac entrepreneuriaeth yn bwysig, ond gall menter gymunedol megis Canolfan Iaith gymryd amser i’w sefydlu, a byddai cyllid refeniw o gymorth mawr yn y cyfnod allweddol hwn, ac yn caniatáu arbrofi a dyfeisgarwch o’r cychwyn

IMG_2390

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *