ANGEN NEWID CYFEIRIAD GYDA’R GYMRAEG -LANSIO MANIFFESTO DYFODOL I’R IAITH

Mae angen newid cyfeiriad sylfaenol yn sut mae’r Gymraeg yn cael ei thrin gan Lywodraeth Cymru. Dyna honiad Dyfodol i’r Iaith wrth lansio ei faniffesto yn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher, Medi 30.
Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni’n galw am newid y pwyslais o ddeddfu i hyrwyddo’r Gymraeg. Mae modd i ddeddfau ddiogelu hawliau, ond mae angen hwyluso’r defnydd o’r iaith yn y cartref, mewn addysg, ar y stryd ac yn y gwaith, ac mae angen gweledigaeth a phenderfyniad newydd i wneud hyn.”
“Rydyn ni am weld Cymru’n mabwysiadu polisïau sydd wedi dwyn ffrwyth mewn gwledydd eraill yn Ewrop.”
“Dros yr ugain mlynedd diwethaf mae’r Gymraeg wedi colli siaradwyr. Yn yr un cyfnod mae niferoedd siaradwyr y Fasgeg wedi codi o 529,000 i 714,000. Does dim un rheswm pam na allwn ni gael yr un llwyddiant yng Nghymru.”
“Does dim rheswm pam na ddylen ni fanteisio ar y profiadau gorau rhyngwladol ym maes cynllunio ieithyddol.”
Mae Dyfodol i’r Iaith am weld y pleidiau i gyd yn derbyn polisi cyffredin i hyrwyddo’r iaith. Yn ôl Dyfodol i’r Iaith, dylai’r polisi roi blaenoriaeth i dwf addysg Gymraeg, i gryfhau Cymraeg i Oedolion i ddatblygu gweithlu Cymraeg ac i hybu’r Gymraeg yn y cartref, ac i sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Cymraeg ledled Cymru.
“Un newid sylfaenol rydyn ni am ei weld yw creu Asiantaeth led braich a fydd yn gyfrifol am hyrwyddo’r Gymraeg ar lawr gwlad, am ddyfeisio ymgyrchoedd creadigol ac arbrofol, gwaith nad oes modd i weision sifil ei wneud yn hawdd.”
“Rydyn ni hefyd am i Gomisiynydd y Gymraeg ganolbwyntio ar hyrwyddo’r Gymraeg mewn gweithleoedd, trwy wneud y Gymraeg yn iaith gwaith ac yn iaith cyfathrebu llafar.”
“Rydyn ni’n eisoes wedi cwrdd â chynrychiolwyr pob plaid, ac yn edrych ymlaen at barhau’r trafodaethau gyda nhw.”
Caiff y cyfarfod yn y Cynulliad ei noddi gan Keith Davies AC, Suzy Davies AC, Alun Ffred Jones AC ac Aled Roberts AC.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *