Ymateb Dyfodol i Gwilym Owen

Annwyl Olygydd,
Diolch i Gwilym Owen am roi cyfle i ni egluro iddo am waith Dyfodol i’r Iaith (Golwg 22/1/2015).
Cafodd Dyfodol i’r Iaith ei sefydlu yn grwpio lobio cyfansoddiadol ddwy flynedd a hanner yn ôl, yn niffyg grŵp o’r fath yng Nghymru. Mae gan nifer o gyrff mewn meysydd eraill grwpiau lobio cyfansoddiadol, yn sgil datblygiad democratiaeth yng Nghymru, a daeth yn hen bryd i’r Gymraeg gael ei chynrychioli.
Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o’i bodolaeth, bu’r mudiad yn ymwneud yn gyson â swyddogion a gwleidyddion llywodraeth ganol a lleol, yn ymateb i fyrdd o ymgynghoriadau, ac yn ymddangos o flaen gwahanol bwyllgorau, gan geisio cynnig polisïau iaith wedi’u seilio ar egwyddorion cydnabyddedig cynllunio iaith.
Fel y mae Gwilym Owen yn ei ddeall, mae angen i’r ymdrechion o blaid y Gymraeg gamu i feysydd y tu hwnt i enillion statws, ac mae angen defnyddio sawl dull i fynd â’r maen i’r mur. Mae lobio yn un o’r dulliau hyn.
Mae Gwilym Owen yn gwybod, gystal â ni, bod bwlch wedi’i adael gyda diflaniad Bwrdd yr Iaith. Er iddo fod ar brydiau’n ddi-ddannedd, a heb rym mewn rhai meysydd allweddol i’r Gymraeg, yr oedd, serch hynny, yn rhoi arweiniad creadigol mewn sawl cyfeiriad. Collwyd hyn, a cheir erbyn hyn fod y llywodraeth yn gweithredu’n ddoeth ar brydiau, ond bryd arall yn ddigyfeiriad.
Daeth yn glir bod angen corff i gyfeirio a chydlynu polisïau o fewn y llywodraeth a chorff allanol hefyd a all warchod y Gymraeg pan ddaw’n fater o apeliadau cyfreithiol. Tuag at hyn y bydd Dyfodol i’r Iaith yn gweithio yn ystod y misoedd nesaf, gan lunio yr un pryd gynllun iaith i Gymru a fydd yn addas i’r llywodraeth ei ddilyn.
Bydd pwyslais y cynllun ar greu hinsawdd a sefyllfaoedd a fydd yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, boed hynny yn y cartref, yn y gymuned neu yn y gwaith.
Mae gennym eisoes 250 o aelodau a chefnogwyr, sy’n cyfrannu’n hael i gynnal dwy swydd ran amser. Ni ragwelwn wastraffu arian ar bencadlys, yn ôl dymuniad Gwilym Owen, ond wrth ddyblu aelodaeth eleni, rydyn ni am i’r swyddi fod yn amser llawn ac am sefydlu swyddfa a fydd wedi’i lleoli, mae’n debyg, yn hwylus i’n swyddogion.
Os yw Gwilym Owen am ymuno â ni, mae croeso iddo fynd i’n gwefan: www.dyfodol.net. Croeso i bawb, wrth gwrs. Yno fe welir enwau ein swyddogion ac aelodau’r Bwrdd. Mae’r rhain i gyd yn gweithio’n gwbl wirfoddol.
Caiff Gwilym Owen weld yno hefyd fraslun o’n gweithgareddau dros y ddwy flynedd diwethaf, gan gynnwys ym maes addysg, y cyfryngau, cymunedau, cynllunio, cynllunio ieithyddol, yr economi, iechyd a thai.
Yn gywir,
Heini Gruffudd
Cadeirydd

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *