DYFODOL YN CEFNOGI CANOLFANNAU CYMRAEG

Mae sefydlu Canolfannau Cymraeg mewn ardaloedd sydd wedi gweld y Saesneg yn dod yn brif iaith, yn gam allweddol wrth adfywio’r iaith yn yr ardaloedd hynny.  Dyna honiad Dyfodol i’r Iaith wrth i gynlluniau am Ganolfannau Cymraeg ddod yn agos at eu gwireddu yn Llanelli a mannau eraill. Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Wrth i sefydliadau traddodiadol sydd wedi cefnogi’r iaith a chymdeithasu trwy’r Gymraeg edwino, mae hi’n dod yn fwyfwy pwysig bod gan gymunedau yng Nghymru ganolfannau sy’n rhoi modd i bobl leol gymdeithasu a mwynhau gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.” “Mae Canolfannau Cymraeg yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn anffurfiol, ac yn rhoi cyfle hefyd i bobl ifanc fwynhau bywyd Cymraeg y tu allan i’r system addysg.” “Mae modelau ar gael yn Abertawe a Merthyr Tudful sy’n profi bod Canolfannau Cymraeg yn gallu llwyddo a dod yn ffocws i fywyd Cymraeg.  Mae cael mudiadau Cymraeg, Cymraeg i Oedolion, y Mentrau Iaith a llywodraeth leol i ddod at ei gilydd yn allwedd llwyddiant, ond yr un mor bwysig yw bod gwirfoddolwyr lleol yn ganolog i’r  fenter.” “Mae’n wych bod y Llywodraeth yn rhoi arian cyfalaf i gefnogi sefydlu Canolfannau Cymraeg mewn sawl rhan o Gymru.  Y ddelfryd yw bod y rhain yn amlhau a’u bod yn dod yn ganolfannau dysgu a chymdeithasu, yn debyg i’r 200 o ganolfannau yng Ngwlad y Basgiaid.” “Gyda’i gilydd, gallan nhw gyfrannu’n greadigol at drawsnewid ieithyddol yn ardaloedd Seisnigedig Cymru.”

AD-DREFNU LLYWODRAETH LEOL YN GYFLE I’R GYMRAEG

Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio ad-drefnu i ehangu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gwaith.  Dyna mae Dyfodol i’r Iaith am ei weld, wrth i awdurdodau lleol Cymru gyflwyno eu cynlluniau uno y mis hwn i’r Gweinidog Llywodraeth Leol.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae’r ad-drefnu’n gyfle euraid i ehangu’r Gymraeg yn iaith gwaith. Mae Gwynedd wedi rhoi esiampl o sut i fynd ati, ac mae angen yn awr i gynghorau uno yn ôl eu cefndir ieithyddol.”

“Mae hyn yn golygu y bydd yn briodol bod Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr yn rhan o drefniant a fydd yn gwneud y Gymraeg yn iaith gwaith y rhan fwyaf o weithwyr yr awdurdodau lleol newydd yn eu hardal, o arfordir y de hyd at arfordir y gogledd.”

“Byddai hyn yn rhoi cyfle i filoedd o weithwyr Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol, a bydd gan hyn effaith gadarnhaol ar y defnydd o’r iaith gan bawb fydd yn delio â’r cynghorau hyn.”

Ychwanegodd, “dylai ehangu’r defnydd o’r Gymraeg fod yn un o’r prif flaenoriaethau yn yr ad-drefnu.”