Galw am wrthdroi penderfyniad tai yn Sir Gaerfyrddin

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i alw i mewn benderfyniad Cyngor Sir Gâr i godi 289 o dai ym Mhenybanc, ger Rhydaman. Mae aelodau’r mudiad yn pryderu y bydd codi’r nifer hwn o dai mewn ardal lle nad oes ond 400 o dai ar hyn o bryd yn gwaethygu sefyllfa’r Gymraeg yn y sir.

Mae’r Mudiad hefyd yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi Nodyn Cyngor Cynllunio TAN 20 newydd ar fyrder yn sgil penderfyniad Cyngor Sir Gâr, yn arbennig felly gan fod y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros yr iaith, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi y bydd Comisiwn yn edrych ar sefyllfa’r Gymraeg yn Sir Gâr yn benodol.

 

“Maen rhaid cyhoeddi TAN 20 newydd radical i sicrhau fod penderfyniadau cynllunio niweidiol o’r math yma ddim yn digwydd,” meddai Cadeirydd Dyfodol, Heini Gruffudd. “Dylai’r TAN 20 danlinellu yn ddiamwys y cyfrifoldeb sydd gan awdurdodau cynllunio i beidio â thanseilio’r Gymraeg fel iaith gymunedol, a does dim dwywaith y dylai dyletswydd o’r fath gael ei gynnwys ar wyneb y Bil Cynllunio arfaethedig.”

Mae Dyfodol i’r Iaith yn bwriadu trafod Tan 20 mewn cyfarfod buan efo Leighton Andrews.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *