Siaradwyr – Cyfarfod Cyffredinol

Fe fydd cyfarfod cyffredinol cyntaf Dyfodol yn cael ei gynnal ar yr 20fed o Hydref yn Aberystwyth.

Cadeirydd y cyfarfod fydd Angharad Mair ac ymhlith y siaradwyr bydd yr Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd a Kathryn Jones o Gwmni Iaith fydd yn trafod sefyllfa’r Gymraeg heddiw.

Fe fydd trafodaeth hefyd gydag  Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth, Rebecca Williams (UCAC) a Llyr Roberts, (Positif) ar beth yn union yw lobio yng Nghymru heddiw.

Fe fydd cyfle hefyd i aelodau gyfrannu i drafodaeth eang ar raglen waith y mudiad.

Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth i ddechrau am 11am ar yr 20fed o Hydref. Fe ddarperir cinio am bris rhesymol.

Mae croeso i unrhyw un fynychu’r cyfarfod ond dim ond aelodau Dyfodol fydd yn cael pleidleisio yn y cyfarfod ffurfiol.

Os hoffech  ddod i’r cyfarfod rhowch wybod i ni ar [email protected]